top of page
20190510_144608.jpg

Yr Ardal

Mae plwyf Clynnog Fawr tua hanner ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli.   Mae’r plwyf yn ymestyn i 4,551 hectar (tua 17.6 milltir sgwâr). Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr, mae’r plwyf yn cynnwys Pontllyfni, Aberdesach, Capel Uchaf, Tai’n Lôn a Phant Glas.

Eglwys Sant Beuno

Eglwys Sant Beuno

​Nodwedd bwysicaf y plwyf yw’r eglwys yng Nghlynnog Fawr, sef eglwys Sant Beuno. Mae llawer wedi ei ysgrifennu dros y blynyddoedd am hanes yr eglwys, ond yn fyr adeiladwyd yr eglwys bresennol ar safle mynachdy Celtaidd a sefydlwyd gan Beuno yn y seithfed ganrif, Ceir cyfeiriad at losgi’r eglwys gan y Llychlynwyr yn 978, ond mae rhai ffynonellau fel Brut y Tywysogion yn awgrymu mai Hywel ap Ieuaf, a ddaeth yn frenin Gwynedd yn 974 a anrheithiodd ‘Llyn a Clynnog Fawr’ yn 978. Er bod y dystiolaeth yn y blwyddnodion yn brin, awgrymodd T M Charles Edwards bod dau ymosodiad ar yr ardal yn 978, ond mae hefyd yn awgrymu y gall bod Hywel ap Ieuaf wedi cydweithio â’r Llychlynwyr yn erbyn Iago ap Idwal. Yn ôl y dystiolaeth, bu’r blynyddoedd wedi’r cyfnod hwn yn eithaf distaw a llewyrchus i’r eglwys, a nid yw wedi ei chynnwys yn y rhestr o eglwysi oedd yw digolledu wedi’r goncwest yn 1282. Mae’r eglwys bresennol, sydd ar ffurf groes yn y dull Saesnig, yn dyddio fwyaf o’r 15fed a 16eg ganrif. Mae’r gangell a chroesfâu’r de a’r gogledd o’r un cyfnod, ac yn ôl pob tebyg, ac ar sail darnau o wydr lliw o ffenest ddwyreiniol, wedi eu cwblhau erbyn tua 1486. Mae corff yr eglwys o’r un arddull ond o gyfnod rhywfaint yn ddiweddarach. Mae porth y gogledd a’r festri yn ychwanegiadau mwy plaen ond oherwydd y tebygrwydd yn y drysau, credir i’r festri ddyddio o’r un cyfnod â chorff yr eglwys. Credir hefyd bod y twr a Chapel Sant Beuno yn dyddio o ddechrau 16eg ganrif. Fel yr oedd yn ffasiwn yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd mwy a mwy o addolwyr blaengar yn cefnogi eglwysi plwyf lleol, a’r teulu Glynne a gyflwynodd y ffenest ddwyreiniol i’r capel er cof am aelodau o’r teulu. Mae enwau’r rhai sydd ar y coffâd yn awgrymu dyddiad rhwng 1540 a 1558. Er ar wahân, mae Capel Beuno, lle y credir i Sant Beuno gael ei gladdu, wedi ei gysylltu â’r eglwys drwy dramwyfa 5 llath mewn hyd, wedi ei adeiladu yn eithaf garw gyda tho cromennog yn debyg i waith Celtaidd cynnar, ond yn ôl bob tebygrwydd yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Yn ol bob son, roedd y dramwyfa hon yn cael ei defnyddio fel carchar dros dro yn y ddeunawfed ganrif. Ymysg y nifer o arteffactau a geir yn yr eglwys mae Cyff Beuno, cist gref wedi ei cherfio o dderw caled gyda thair clo cryf. Roedd yn draddodiad ar droead y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ffermwyr lleol roddi lloi neu wyn gyda marc neu nòd Beuno, hollt a geir weithiau ar glustiau lloi, i’r eglwys a buasai unrhyw arian a gafwyd o werthu’r anifail yn cael ei gadw yn y gist dderw hon. Awgrymodd J Evans yn ei lyfr Beauties of North Wales bod hen lawysgrif yn cyfeirio at ddefnydd Cyff Beuno o gasglu arian penyd gan bechaduriaid, ac mae’n debyg bod yr offrymau yn cael eu gwneud mewn dull arbennig: ‘Here I offer to God four pence for my private sins, on which account the Almighty is now punishing me, to be given for the same service that the Blessed Saints used to offer, in the name of the Father, the Son and the Holy Spirit’.

siambr gladdu bachwen

Siambr Gladdu Bachwen

Siambr neu fedrodd o’r oes megalithig wedi ei ffurfio gan bedair carreg yn cynnal maen capan, er bod un o’r cerrig cynnal yn ddarn newydd eithaf modern.

Mae wyneb uchaf y maen capan gyda thua 110 o bantiau siâp cwpan tua 2 fodfedd (5 cm.) mewn diamedr, wedi eu trefnu yn hollol ar hap, ac yn debyg i rai a geir mewn sawl henebiad hynafol drwy Gymru ac Iwerddon. Ni does dim gwybodaeth ar gael dros y marciau ond credir iddynt gael rhyw bwrpas hudol.

siambr gladdu penarth

Siambr Gladdu Penarth

Gweddill o siambr betryalog, tua 5 troedfedd wedi ei ffurfio gan dair carreg cynnal a maen capan wedi cwympo.  Credir bod y bedwaredd garreg cynnal wedi cael symud ymaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

ffynnon beuno

Ffynnon Beuno

Wedi ei lleoli tua chwarter milltir o’r eglwys ar hyd yr hen ffordd A499 i Bwllheli Mae’r ffynnon fel yr eglwys wedi ei henwi ar ôl Sant Beuno.

 

Roedd y ffynnon yn cael ei hystyried yn iachusol, ac yn ôl bob son roedd trochfa yn y dŵr iachusol, ac yna noson ar fedd Sant Beuno yn yr eglwys yn gallu gwellau sawl anhwyldeb, gan gynnwys epilepsy mewn plant. Flynyddoedd cyn i feddygaeth gael ei ystyried yn wyddoniaeth, y credoau hyn oedd yr unig beth a gynigiai obaith i bobl mewn anobaith.

Maen Beuno

Ceir Maen Beuno yng Nghapel Beuno ger yr eglwys. Clogfaen llyfn o garreg galed yw’r maen gyda chroes wedi ei cherfio ar un wyneb. Mae’r garreg tua 3 troedfedd 9 modfedd (1.14 medr) wrth 2 droedfedd 3 modfedd (0.7 med) gyda’r groes yn mesur 14½ modfedd (36.8 cm) wrth 7⅜ modfedd (18.7 cm). Er i’r garreg gael ei darganfod yn Glan Beuno ym Mhontnewydd, ac ond yn ddiweddarach y cafodd ei symud i’r eglwys yn Clynnogfawr, ni wyddys lawer am ei tharddiad. Mae rhai wedi awgrymu mai unai carreg i ddangos terfyn ar dir yr eglwys oedd neu, ac efallai yn fwy tebygol, carreg weddi ger ochr y ffordd er mwyn i bererinion gael dweud pader cyn symud ymlaen. Eto, mae Raford a Hemp (Archaeologica Cambrensis, 10, 1961) wedi awgrymu bod y garreg yn gysylltiedig ag eglwys gynnar, ond byr ei hoes, a sefydlwyd gan Beuno yn Glan Beuno, ond eto mae’r farn fodern yn credu mai ond dyfaliad yw hyn.

Deial Haul

Ceir y deial haul sydd yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, yn y fynwent, i’r gorllewin o’r eglwys. Mae’r deial wedi ei naddu ar golofn siâp petryal bron i 3 medr o uchder. Mae’r twll i gnomon neu nodwydd, mae’n debyg o fetel neu bren, er mwyn taflu cysgod ar ben hanner cylch wedi ei naddu ond sydd yn ymestyn rhywfaint tu draw i led y garreg. Mae’r hanner cylch, sydd yn cynrychioli hanner diwrnod neu ddeuddeg awr, wedi ei rannu yn bedwar, bob un yn cynrychioli tair awr. Mae’r rhaniad yma i gyfnodau o dair awr yn dangos dylanwad Sacsonaidd ond fel arfer ceid deialau haul Sacsonaidd wedi ei adeiladu i mewn i dyrrau eglwysi ac nid yn sefyll ar ben eu hunain. Er yn eithaf prin yng Nghymru, ceir rhai tebyg yn yr Iwerddon a chredir bod y deial hwn yng Nghlynnogfawr yn ganlyniad o’r berthynas agos rhwng y ddwy wlad yn nechrau’r ddeuddegfed ganrif. Yn ôl y Parch R D Roberts, cafwyd hyd i’r garreg ar fferm yn y cyffiniau, lle’r oedd yn cael ei defnyddio fel bwrdd i ddal bwcedi llefrith, ar ôl bod ar un tro yn bont fechan dros ryw nant. Dychwelwyd y deial i’r eglwys yn 1930 a chafodd ei chofrestru fel henebiad hynafol yn 1951.

bottom of page